top of page
Logo Adain

ADAIN: RHOI HWB I FUSNESAU GYDA GWEFANNAU A MARCHNATA DIGIDOL

GWASANAETHAU

Mae'r elfen ddigidol o'ch busnes yn holl bwysig i gadw'r brand yn fyw. Gall Adain eich helpu efo sawl agwedd o farchnata digidol gan ryddhau eich amser i chi allu canolbwyntio ar eich cwsmeriaid. O ysgrifennu cynnwys a gwaith cyfieithu i ddylunio gwefan a gwaith cyfryngau cymdeithasol, mae Adain yma i'ch helpu.

PROSIECTAU

Mae Adain wedi cael y pleser o weithio efo sawl busnes a dod i ddysgu mwy am y gwaith anhygoel mae nhw'n ei wneud. Rydym wrth ein boddau yn cydweithio efo busnesau bach Cymreig gan roi hwb iddynt wireddu eu potensial. O wasanaethau harddwch, i dimau pêl-droed, rydym yn agored i unrhyw sialens!

AMDANOM NI

​

Helo! Anwen a Gwenan sydd yma a ni’n dwy sydd tu ôl i gwmni Adain. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yr un yn y maes marchnata digidol a chreu cynnwys dwyieithog, rydym wedi creu Adain er mwyn rhoi hwb i fusnesau bach Cymru. Os ydych eisiau ychydig o gymorth gyda gwaith gwefan, cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu cynnwys, cyfieithu, prawf ddarllen neu farchnata’r brand yn gyffredinol, gall Adain eich helpu. 

​

Rydym wrth ein boddau yn dod i wybod mwy am eich busnes a gweld sut y gallwn eich helpu i greu cynnwys digidol er mwyn eich busnes fynd o nerth i nerth. Y gobaith ydi codi eich hyder a llenwi'r bylchau fel eich bod yn gallu cynnig y gwasanaeth orau bosib i'ch cwsmeriaid, a hynny yn ddwyieithog.


Os ydych chi'n cael trafferth i ddod o hyd i amser i wneud gwaith marchnata digidol neu ddim yn siŵr lle i gychwyn, cysylltwch am sgwrs.

​

​

​

IMG_4059.jpg

ADBORTH

"Diolch o waelod calon i genod Adain am y cyngor. Ges i adolygiad busnes a marchnata efo nhw a doeddwn i wir methu credu cymaint o waith trylwyr wnaethon nhw ar fy rhan. Dwi methu aros i weithio fy ffordd trwy’r argymhellion rwan ac yn gyffrous dros ben am gyfnod nesa fy musnes. Diolch genod.”

Mentora efo Sian

Sian Williams

Contact

CYSYLLTU

Diolch yn fawr!

bottom of page